Mewn lleoliad delfrydol yng nghanol Eryri. Mae byncws Caban Cysgu yn cynnig llety cyfforddus, fforddiadwy ar drothwy Y Carneddau ac Ogwen ym mhentref Gerlan.
Ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri – lleoliad perffaith ar gyfer eich holl anturiaethau awyr agored.
Mae Mynyddoedd y Carneddau ar garreg ein drws gyda Tryfan a Chwm Idwal 10 munud o yrru i ffwrdd, a'r Wyddfa yn daith 20 munud. I'r rhai sy'n dymuno cyrraedd ar droed, mae Llwybr Llechi a Ffordd Eryri yn mynd heibio'r byncws.
Rydym wedi'n lleoli 5 munud i ffwrdd o Zip World; y llinell wib hwyaf a chyflymaf yn Ewrop. Mae nifer o lwybrau beicio mynydd i'w mwynhau gerllaw. Tra gall beicwyr ffordd herio eu hunain ar y dringfeydd serth a'r disgynfeydd cyffrous. Ar gyfer taith fwy hamddenol, mae llwybr beicio Lon Las Ogwen 5 munud i ffwrdd, ac mae'n ymestyn i fyny i Lyn Ogwen, neu i lawr i Fangor.
Mae gorsaf drenau Bangor 6 milltir i ffwrdd.
Dal bws o orsaf fysiau Bangor i Gerlan neu Fethesda
Tacsi o Fangor tua £15-20.00
© Hawlfraint 2023 - Caban Cysgu Gerlan - Gwefan gan Delwedd