Mae Caban Cysgu yn lety fforddiadwy, cynnes a chyfforddus gydag ystafelloedd “on-suite” sy'n cysgu 16. Mae'n cael ei redeg gan gymuned Gerlan ac mae'n cynnig llety pwrpasol sy'n berffaith, i deuluoedd, grwpiau ysgol , clybiau, ac unigolion.
Ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri – lleoliad perffaith ar gyfer eich holl anturiaethau awyr agored.
Mae mynyddoedd y Carneddau ar garreg ein drws, gyda Tryfan a Chwm Idwal 10 munud o yrru i ffwrdd, a'r Wyddfa yn daith o 20 munud . I'r rhai sy'n dymuno cyrraedd ar droed, mae'r Llwybr Llechi a Ffordd Eryri yn mynd heibio gerllaw'r byncws.
Yr ydym wedi'n lleoli dim ond 5 munud i ffwrdd o Zip World y wifren zip hwyaf a chyflymaf yn Ewrop. Mae nifer o lwybrau beicio mynydd i'w mwynhau gerllaw, tra gall beicwyr ffyrdd herio eu hunain ar y llwybrau serth a'r disgynfeydd cyffrous . Ar gyfer taith fwy hamddenol , mae llwybr beicio Lon Las Ogwen 5 munud i ffwrdd, ac mae'n ymestyn i fyny i Lyn Ogwen, neu i lawr i Fangor.
© Hawlfraint 2023 - Caban Cysgu Gerlan - Gwefan gan Delwedd