|
 |
| |
 |
Mae Caban Cysgu Gerlan yn cynnig llety fforddiadwy i grwpiau a theuluoedd wrth droed y Carneddau. Mae'n cael ei redeg gan gwmni cymunedol, felly gallwch fod yn sicr o groeso cynnes.
Mae'r safle’n ddelfrydol ar gyfer cerdded yn Eryri ac ar gyfer sialens y 14 copa. Rhoddir croeso hefyd i feicwyr gyda llwybr “Sustrans”, Lôn Las Ogwen un filltir i ffwrdd.
I fyny’r dyffryn mae clogwynni Cwm Idwal yn cynnig profiad i ddringwyr o bob safon, ac mae’r Afon Ogwen yn ei lli yn sialens i'r canwiwr mwyaf profiadol. I'r rhai sydd am gymryd pethau ychydig yn fwy hamddenol, beth am ymweld â Chastell Penrhyn, Coed Meurig a'r Gelli Gyffwrdd. Mae siopau, tafarndai a llefydd bwyta Bethesda o fewn tafliad carreg i'r ganolfan.
|
|
 |
 |
 |
| |
  |
 |
| |
 |
Mae Caban Cysgu Gerlan yn cynnig llety fforddiadwy i grwpiau a theuluoedd wrth droed y Carneddau. Mae'n cael ei redeg gan gwmni cymunedol, felly gallwch fod yn sicr o groeso cynnes. mwy... |
|
 |
|